Toggle mobile menu visibility

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe : Pastoral Assistant

Closing Date (24/05/24) (12noon) Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwyydd i dîm bugeiliol yr ysgol, i ddechrau cyn gynted â phosib. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm bugeiliol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion ar draws CA3 a 4.

Croesawn geisiadau gan unigolion â'r brwdfrydedd a'r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â'r angerdd, y gallu neu'r profiad a'r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rhwystrau i'w dysgu. 

Mae'r rolau newydd yma, sy'n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae'r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion. 
 
Sut i Ymgeisio: 
 
Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Gwener 24ain o Fai 2024 12 y.p.
Cyflog: Graddfa Cyflog 5 Pro Rata £20943-£21655
Cytundeb: Parhaol, 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig 
Dyddiad cau: Dydd Gwener 24ain o Fai 2024
 
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon. 
Bydd y swydd yn amodol ar  wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi. 
 
Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at:  
Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes  Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.  
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn:  24ain o Fai 2024 12y.p.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc) [134KB]

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe : Pastoral Assistant Job Description (PDF) [238KB]

Mae'r awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i bawb o'r staff ymgymered â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

 

Close Choose Language