|
|
||
Parcio A Theithio![]() Mae Dinas a Sir Abertawe yn darparu tri safle Parcio a Theithio sydd wedi'u lleoli'n gyfleus oddi ar brif ffyrdd i'r gogledd, dwyrain a gorllewin o Ganol y Ddinas.Parcio a Theithio Mae Dinas a Sir Abertawe yn darparu tri safle Parcio a Theithio cyfleus sy'n agos at brif heolydd i'r gogledd (yr A4067), i'r dwyrain (yr A483) ac i'r gogledd orllewin (yr A483) o Ganol y Ddinas. Mae'r safleoedd hyn yng Ngland?r, Ffordd Fabian a Fforestfach Mae cysylltiadau bysus rheolaidd i Ganol y ddinas ac oddi yno, rhwng 0700 a 1900 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn defnyddio bysus modern llawr isel hawdd eu defnyddio. Mae'r gwasanaethau hefyd ar gael ar ddydd Sul yn ystod y pump wythnos cyn y Nadolig. Mae Parcio a Theithio yn Abertawe yn derbyn cymorth ariannol gan Ddinas a Sir Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Er mwyn gweld cynllun datblygu'r Cyngor, cliciwch yma __ EIN HADDEWID PERFFORMIAD: __ Byddwn bob amser yn ymdrechu i redeg ein gwasanaethau yn ôl yr amserlen. Bydd adegau pan na fyddwn yn medru gwneud hyn; Byddwn bob amser yn ceisio hysbysu cwsmeriaid yngl?n â'r rhesymau dros hyn, a lle bynnag y bo'n bosib, nodi beth gallwn ei wneud i osgoi problemau yn y dyfodol. Gallai fod rhesymau dilys pam na allwn ddatrys problem yn syth ond byddwn bob amser yn ystyried beth gellir ei wneud yn y dyfodol er mwyn osgoi ailadrodd yr un broblem.
Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.
Lleolir safle Parcio a Theithio Fforestfach oddi ar yr A483 tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o Ganol y Ddinas.
Mae Parcio a Theithio Glandwr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mehefin 4 2010