||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=6037
||

Rhyddid Gwybodaeth

image depicting Freedom Of Information English / Welsh Logo

Derbyniwyd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) gyda'r bwriad y byddai'n annog awdurdodau cyhoeddus i daenu mwy o oleuni ar yr hyn y maent yn ei wneud gydag arian cyhoeddus a pheidio â chefnogi cyfrinachedd diangen.

Nod y Llywodraeth wrth dderbyn y ddeddf yw:


" ...y bydd yn trawsnewid y meddylfryd o 'dylid cadw hyn yn dawel oni bai' i 'dylai hyn gael ei gyhoeddi oni bai'.
Drwy wneud hyn dylai wella hyder y cyhoedd ym mhrosesau'r llywodraeth."

Cyn-Ysgrifennydd Cartref, Y Gwir Anrhydeddus Jack Straw AS


Mae'r Ddeddf, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005, yn gosod 2 brif ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus fel Dinas a Sir Abertawe:

  1. rhaid i'r Awdurdod lunio Cynllun Cyhoeddi
  2. rhaid i'r Awdurdod ddarparu hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth y mae'n ei chadw (yn amodol ar rai categorïau o wybodaeth a eithriwyd)


Cynllun Cyhoeddi

Lluniwyd y Cynllun Cyhoeddiyn wreiddiol ym mis Chwefror 2003 a mabwysiadwyd Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol o 1 Ionawr 2009. Mae'n cynnwys manylion sut gall y cyhoedd gael gwybodaeth sy'n eiddo cyhoeddus o ran gwaith y Cyngor a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu.


Hawl Mynediad Cyffredinol

O 1 Ionawr 2005, gall unrhyw un wneud cais am 'wybodaeth a gofnodwyd' gan yr Awdurdod (yn amodol ar eithriadau). Gall gwybodaeth a gofnodwyd fod ar unrhyw fformat e.e. papur, disg, fideo ac mae'n cynnwys fersiynau electronig a phapur o gofnodion fel negeseuon e-bost, adroddiadau, cofnodion cyfarfodydd a chynlluniau llawr.

Mae 23 categori o wybodaeth a eithriwyd yn y Ddeddf, sy'n cynnwys eithriadau llwyr ac eithriadau cymwys. Enghreifftiau o eithriadau llwyr yw gwybodaeth sydd ar gael i'r ymgeisydd drwy ffyrdd eraill, rhai mathau o wybodaeth bersonol, gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol a chofnodion lle gwaherddir datgelu yn ôl y gyfraith. Os gall eithriad llwyr gael ei ddefnyddio yna nid oes rhaid datgelu'r wybodaeth.

Bydd y rhan fwyaf o eithriadau'n gymwys ac felly maent yn destun prawf budd y cyhoedd h.y. a yw budd y cyhoedd drwy atal gwybodaeth a eithriwyd yn gorbwyso'r budd i'r cyhoedd o'i rhyddhau. Enghreifftiau o eithriadau cymwys yw gwybodaeth i'w chyhoeddi yn y dyfodol fel adroddiadau drafft, materion gorfodi'r gyfraith a deunyddiau sy'n fasnachol sensitif. Rhaid i'r wybodaeth gael ei datgelu os yw o fudd i'r cyhoedd.

Mae'r Ddeddf yn gwbl ôl-weithredol fel bod yr holl wybodaeth a gofnodwyd sy'n cael ei chadw gan Ddinas a Sir Abertawe'n dod o dan gwmpas y Ddeddf.

Mae'n drosedd gorfforaethol a phersonol i unrhyw un newid, difwyno, atal, dileu, dinistrio neu gelu unrhyw gofnod a gedwir gan yr Awdurdod gyda'r bwriad o atal ei ddatgelu unwaith y bydd ymgeisydd wedi gwneud cais amdano.


Cydymffurfio

Ar ôl derbyn cais ysgrifenedig am wybodaeth a gofnodwyd rhaid hysbysu'r ymgeisydd a yw'r wybodaeth honno gan yr Awdurdod ac os felly rhaid ei ddarparu â'r wybodaeth honno, os yn bosib, yn y modd y gofynnwyd amdano.

Rhaid i'r Awdurdod ymateb yn brydlon i gais o fewn 20 niwrnod gwaith.

Gellir cael ffurflen gais ar ochr dde uchaf y dudalen hon.

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn mynd i'r afael â thorri'r Ddeddf hon. Mae ef yn swyddog cyhoeddus annibynnol ac mae'n ateb yn uniongyrchol i'r Senedd. Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth b?er i roi hysbysiadau am benderfyniadau, hysbysiadau gwybodaeth a hysbysiadau gorfodi er mwyn gwneud i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio.

Yn gyntaf rhaid i'r ymgeisydd fod wedi dilyn gweithdrefn gwyno fewnol yr Awdurdod i'r eithaf.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â
Janet Hooper
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
Canolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth
Abertawe SA1 3SN

Ffôn: 01792 636148
Ffacs: 01792 636340
E-bost: janet.hooper@swansea.gov.uk

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth www.informationcommissioner.gov.uk .

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340