|
|
||
Prom AbertaweMwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe
Dewch i fwynhau'r pedalos elyrch a dreigiau ar Lyn Cychod Singleton, rownd o golff ar gwrs Taro a Phytio Heol Ashleigh, neu rhowch gyfle i'r plant chwarae yn Lido Blackpill a Gerddi Southend, gyda Thrên Bach Bae Abertawe yn cysylltu pob un. *Ar hyn o bryd mae Trên Bach Bae Abertawe yn rhedeg ar benwythnosau'n unig, 10.00am - 4.30pm, tan 18 Gorffennaf, a bydd yn ailddechrau gweithredu bob dydd o ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf, 10.00am - 6.30pm. Mae Lido Blackpill, Llyn Cychod Singleton a chwrs golff gwallgof Gerddi Southend nawr ar agor bob dydd tan ddydd Iau 2 Medi, 11am - 6pm.* Arosfannau ar hyd y promMae llawer mwy o atyniadau wedi'u lleoli ar y promenâd ger 4 prif fan aros: Arhosfan 1 - Ardal Forol - Mae'r prom trawiadol 5 milltir o hyd yn bendant yn dechrau mewn steil, mewn ardal sy'n llawn atyniadau gwych. Arhosfan 2 - Parc Singleton - Wrth i chi werthfawrogi ehangder bendigedig Bae Abertawe, byddwch yn mynd heibio'r senotaff a chyrraedd y prif arhosfan nesaf ar y daith. Arhosfan 3 - Blackpill - Parhewch ar hyd y prom a byddwch yn cyrraedd Lido Blackpill, parc d?r awyr agored Abertawe. Arhosfan 4 - Y Mwmbwls - Yr arhosfan olaf ar hyd y prom yw'r Mwmbwls, cyrchfan glan môr Fictoraidd ddeniadol, yn llawn siopau, caffis a pharlyrau hufen iâ. (Gweler y map am leoliad yr arosfannau) Llyfryn Gwybodaeth 2010Mae llyfryn gwybodaeth newydd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer Prom Abertawe nawr ar gael, gan amlinellu'r holl atyniadau ar hyd y prom. Codwch gopi o'r llyfryn gwybodaeth o un o'r lleoliadau canlynol: Canolfan Croeso Abertawe, Canolfan Croeso'r Mwmbwls, y Ganolfan Ddinesig, Neuadd y Ddinas, Parcio a Theithio Gland?r a Pharcio a Theithio Ffordd Fabian. Neu gallwch lawrlwytho copi eich hun o Lyfryn Gwybodaeth Prom Abertawe. Llyfryn Talebau'r Prom Lawrlwythwch Llyfryn Talebau Prom Abertawe i arbed arian ar atyniadau, gweithgareddau a bwytai ar hyd y promenâd. (Mae telerau ac amodau'n gymwys). Mae'r talebau hefyd ar gael ar fformat i'w hargraffu format neu'n unigol os hoffech chi argraffu rhai cynigion yn unig. Gellir hefyd cael y llyfryn hwn o'r Ganolfan Ddinesig, Neuadd y Ddinas a Chanolfannau Croeso Abertawe/y Mwmbwls. Digwyddiadau Drwy gydol 2010 cynhelir llu o ddigwyddiadau gwych ar hyd, neu ger, y promenâd. Gwybodaeth Ychwanegol Mae'r promenâd hefyd yn rhan o Lwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac yn lle gwych i'w archwilio ar feic. Mae llogi beiciau ar gael i bob oedran. Am fanylion am barcio, bysus a gwybodaeth ychwanegol i dwristiaid yn Abertawe, cliciwch yma. Map |
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Medi 2 2010