|
|
||
Llywodraethwyr YsgolionBeth yw Llywodraethwr ysgol?Mae dod yn llywodraethwr ysgol yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwch helpu'ch ysgol leol. Mae rôl strategol gan y corff llywodraethu wrth gydweithio â'r pennaeth i osod nodau ac amcanion yr ysgol, cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau i gyflawni'r amcanion a monitro a gwerthuso'r nodau a'r amcanion er mwyn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel. Y pennaeth sy'n rheoli'r ysgol o ddydd i ddydd. Fel llywodraethwr ysgol, byddwch yn rhan o dîm. Nid yw llywodraethwyr unigol yn gweithredu ar eu pennau eu hunain. Y corff llywodraethu llawn yn unig sydd â'r dyletswyddau a'r pwerau cyfreithiol ac mae'r holl lywodraethwyr yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol hwnnw. Mae corff llywodraethu da'n hanfodol i lwyddiant ysgol. Pam felly? Beth yw'r manteision o fod yn llywodraethwr ysgol? Oes angen cymwysterau arnaf i fod yn llywodraethwr ysgol? Rwy'n gweithio'n amser llawn. Fydd amser gennyf i fod yn llywodraethwr ysgol? Beth os na fydd fy nghyflogwr yn rhoi amser i ffwrdd i mi? Beth sy'n gwneud llywodraethwr da? Sut mae corff llywodraethu yn gweithio? Faint o amser mae'n ei gymryd? Alla i ddisgwyl cael unrhyw help a chymorth? Mae corff llywodraethu da'n hanfodol i lwyddiant ysgol. Pam felly?
Beth yw'r manteision o fod yn llywodraethwr ysgol?
Oes angen cymwysterau arnaf i fod yn llywodraethwr ysgol? Nac oes. Mae angen ar ysgolion wirfoddolwyr ag amrywiaeth o brofiadau bywyd. Er nad oes angen cymwysterau arnoch i fod yn llywodraethwr, mae'r canlynol yn bwysig:
Rwy'n gweithio'n amser llawn. Fydd amser gennyf i fod yn llywodraethwr ysgol? Mae llawer o lywodraethwyr ysgol yn gweithio amser llawn. Gellir cynnal cyfarfodydd llywodraethwyr yn ystod y diwrnod gwaith ond, yn aml iawn, fe'u trefnir gyda'r hwyr. Beth os na fydd fy nghyflogwr yn rhoi amser i ffwrdd i mi? Mewn gwirionedd, mae llawer o gyflogwyr yn annog eu staff i fod yn llywodraethwyr ysgol. Maent yn sylweddoli bod modd trosglwyddo'r sgiliau a enillir trwy fod yn llywodraethwr ysgol i'r gweithle. Mae cyfraith cyflogaeth yn rhoi'r hawl i bobl gael amser rhesymol i ffwrdd heb dâl ac mae rhai cyflogwyr yn caniatáu absenoldeb â thâl ar gyfer dyletswyddau llywodraethwr ysgol. Beth sy'n gwneud llywodraethwr da?
Brwdfrydedd ac ymroddiad! Os ydych yn rhiant, byddwch yn deall pryderon rhieni eraill, ond nid oes angen i chi fod yn rhiant i fod yn llywodraethwr ysgol. Fel aelod o gymuned yr ysgol, bydd eich gwybodaeth leol yn werthfawr - bydd gennych deimlad am yr hyn sy'n bwysig i bobl yn yr ardal. Sut mae corff llywodraethu yn gweithio?
Faint o amser mae'n ei gymryd? Bydd faint o amser y mae llywodraethwyr yn gallu ei roi i'r rôl yn amrywio, ond os ydych o ddifrif am helpu'ch ysgol i helpu plant, mae angen i chi:
Alla i ddisgwyl cael unrhyw help a chymorth? Gallwch. Mae'r awdurdod lleol yn gwerthfawrogi llywodraethwyr ysgol fel partneriaid pwysig yn y gymuned addysg ac felly mae'n sicrhau bod pecyn cynhwysfawr o gymorth ar gael. Mae'r awdurdod lleol yn cynnal cwrs cyflwyno i lywodraethwyr newydd sy'n cynnwys prif feysydd cyfrifoldeb corff llywodraethu. Mae hyfforddiant yn rhan annatod o ddatblygiad pob llywodraethwr ac mae hwn yn cael ei drefnu a'i gyflwyno trwy raglen hyfforddi flynyddol a hwylusir gan staff arbenigol y gelwir arnynt fel bo'n briodol oherwydd eu harbenigedd penodol. Ceir manylion y rhaglen hyfforddi ar y wefan, www.abertawe.gov.uk Gall llywodraethwyr ddisgwyl cael:
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Hydref 22 2009