||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=4659
||

Cynllun Corfforaethol

image depicting Corporate Plan Cover

Cytunwyd ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor ("Gwell Gwasanaeth, Gwell Perfformiad") ac fe'i gyhoeddwyd yn 2004. Nododd y cynllun hwn amrywiaeth o flaenoriaethau a chamau i'w cyflwyno yn ystod y cyfnod 2004 i 2008.

 

Gallwch weld y cynllun gwreiddiol hwn trwy glicio ar y ddogfen "Cynllun Corfforaethol" ar y dde.

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn darparu trosolwg o Nodau ac Amcanion y Cyngor ac mae'n gosod y cyd-destun ar gyfer gwaith yr holl wasanaethau. Mae "Gwell Gwasanaeth, Gwell Perfformiad" bellach hanner ffordd drwy ei gyfnod gweithredu 4 blynedd. Fe'i adolygir yn flynyddol ac yn dilyn yr adolygiad ar ddiwedd ei ail flwyddyn, gwnaed nifer o newidiadau. Bwriad y newidiadau hyn yw:

  • Cadarnhau cyfeiriad y Cyngor.
  • Ailddiffinio rhai amcanion allweddol.
  • Darparu mwy o eglurder o ran amcanion a mesurau llwyddiant.
  • Amlinellu cyfres o egwyddorion sylfaenol fel sail i'n holl gamau a gwasanaethau.

Wrth ddatblygu'r newidiadau i'r Cynllun Corfforaethol, derbyniwyd ac ystyriwyd barn defnyddwyr, preswylwyr a gweithwyr. Yn wir, mae arolygon â'r cyhoedd wedi helpu i gadarnhau bod y diwygiadau i'r Cynllun yn adlewyrchu'n well yr hyn y mae'r cyhoedd am ei gael ac yn ei ddisgwyl gan y Cyngor.

Mae'r Cynllun Corfforaethol diwygiedig yn cynnwys:

  • Cenhadaeth y Cyngor - dyheadau tymor hir y Cyngor.
  • Nodau Pennaf - sy'n effeithio ar yr holl wasanaethau a ddarperir.
  • Themâu Strategol - sy'n disgrifio'r 5 prif agwedd y mae'r Cyngor hwn am eu datblygu a chanolbwyntio arnynt.
  • Blaenoriaethau Corfforaethol - i ddarparu manylion ar gyfer pob un o'r Themâu Strategol.
  • Mesurau Llwyddiant - targedau i'w cyflawni er mwyn gwella gwasanaethau.
  • Egwyddorion Sylfaenol - sy'n arwain ac yn sail i'r holl gamau gweithredu a gwasanaethau ar draws y Cyngor.

Mae manylion llawn am y Cynllun Corfforaethol diwygiedig ar gael yng Nghynllun Gwella blynyddol y Cyngor. Cyhoeddir y ddogfen hon yn ffurfiol ym mis Hydref 2006. Er mwyn lleihau costau ni fydd Cynllun Corfforaethol ar wahân yn cael ei gyhoeddi.

Fodd bynnag, gellir gweld y cynnwys a amlinellwyd uchod hefyd trwy glicio ar y ddogfen "Cynllun Corfforaethol Diwygiedig" ar y dde.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340