Polisïau a Chyhoeddiadau
Yma gallwch weld yr holl ddogfenau addysg allweddol sydd wedi cael eu cynhyrchu gan yr Awdurdod.
Mae'r ddogfen yma yn amlinellu'n fyr y weledigaeth sy'n datblygu ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yn Abertawe, yr heriau a'r materion sy'n wynebu'r Cyngor ym maes trefniadaeth ysgolion ac yn nodi ffyrdd o fynd i'r afael ag unrhyw gynigion yn y dyfodol.
Wedi'u hamgáu ceir Drafftiau Ymgynghori Dinas a Sir Abertawe ar y Strategaeth Mynediad ac Arweiniad i ysgolion ar lunio Cynlluniau Mynediad.
Mae'r polisi hwn yn ymwneud â dysgwyr *dwyieithog Saesneg fel iaith ychwanegol (o'r fan hon ymlaen cyfeirir atynt fel dysgwyr dwyieithog SIY) yn ysgolion Abertawe sydd â iaith gartref arall heblaw'r Saesneg neu'r Gymraeg ac sydd yn y broses o ddysgu defnyddio'r Saesneg fel iaith ychwanegol ar gyfer amcanion addysgol.
Cwblhaodd Estyn a'r Comisiwn Archwilio Arolygiad AALl o Reolaeth Strategol yn Nhachwedd 2004. Cafodd yr Adroddiad ei gyhoeddi ar Chwefror 15fed 2005 a'r Cynllun Gweithredu ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2005. Gelir dod o hyd i gopiau o'r dogfennau yma ar ochr dde y dudalen hon.
Dyma'r 'Cit Offer' Rheoli Perfformiad a ddatblygwyd gan Dr Julie Sheppard a'r Uned Perfformiad a Phrosiectau, gyda chymorth Cynthia Starkey (ymgynghorydd IDeA).
Dadansoddiad o'r atebion i'r tri arolwg ar y cyd (Fersiwn Gryno)
Diben y Cynllun yw diffinio'r berthynas ariannol rhwng yr Awdurdod Addysg Lleol a'i ysgolion a gynhelir.
Dan Adran 26 Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998 mae'n ofynnol i bob Awdurdod Addysg Lleol (AALl) baratoi Cynllun Trefniadaeth Ysgolion ar gyfer ei ardal.
Mae'n ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol (AALl), dan Adran 52 Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998, baratoi Datganiad Cyllideb bob blwyddyn ariannol.
A compendium of good practice from primary schools
Bydd y fersiwn Gymraeg o'r ddogfen hon ar gael erbyn 28/11/08. Am fanylion pellach, cysylltwch a Kerry Davies ar 01792 636402.
Cynyddu ymwybodaeth ar gyfer ysgolion