|
|
||
Gwefan diwtorial e-ddysgu'r Tîm Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau![]() Croeso i wefan diwtorial e-ddysgu Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau Dinas a Sir Abertawe, sy'n rhoi mynediad llawn i'r defnyddio i'r prosesau, yr offer a'r templedi niferus a ddefnyddir i gwblhau unrhyw raglen neu brosiect yn llawnDatblygwyd yr offer e-ddysgu hwn ers 2007, ac fe'i gwerthfawrogwyd yn fawr gan ein sefydliadau cymheiriaid fel arfer gorau i gyrff cyhoeddus eraill, am fod y rhan fwyaf o gynghorau heddiw yn gorfod newid llawer i fod yn fwy effeithlon a chael gwell gwerth am arian, ac i fod yn fwy effeithiol neu gystadleuol er mwyn ffynnu.Mae prosiectau'n aml yn gyrru newidiadau, ac maent yn dod ag adnoddau, sgiliau, technoleg a syniadau ynghyd i gyflwyno manteision busnes ac i gyflawni amcanion. Mae gwaith Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau da yn sicrhau y cyflawnir y manteision neu'r amcanion hyn o fewn y gyllideb, ar amser ac i'r safon gofynnol.
Os yw Dinas a Sir Abertawe am lwyddo i reoli newid, mae'n rhaid bod gennym gyfres o brosesau, offer a thechnegau profedig i'w defnyddio i gefnogi'n hymdrechion. Dyma ddiben dulliau Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau'r Cyngor. I weld yr wybodaeth hon ar ein gwefan diwtorial, bydd angen creu cyfrif defnyddiwr ar eich cyfer. Cysylltwch â Michael Powney am fwy o wybodaeth. Gosodir tâl gweinyddol sengl am fynediad i'r tiwtorial hwn a fydd wedyn yn rhoi'r hawl i chi addasu popeth yn ôl gofynion eich sefydliad yn unol â thelerau'r cytundeb. Os hoffech weld trosolwg o'r hyn sydd gan y tiwtorial i'w gynnig, lawrlwythwch y cyflwyniad ar ochr dde'r sgrîn. "Mae PRINCE2® yn nod masnach cofrestredig Swyddfa Masnach y Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill " ac "mae MSP™ yn nod masnach i Swyddfa Masnach y Llywodraeth ".
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Ebrill 26 2010