|
|
||
Mae gan Gyngor Abertawe rai o'r gwasanaethau gorau yng NghymruMae gan Gyngor Abertawe rai o'r gwasanaethau cyhoeddus gorau yng Nghymru, yn ôl adroddiad cenedlaethol.![]() Mae adroddiad blynyddol yr Uned Ddata Llywodraeth Leol yn amlygu nifer o feysydd lle mae Abertawe ar flaen y gad yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, tai a gwasanaethau i blant. Mae gan bob aelwyd yn Abertawe bellach fynediad i wasanaethau casglu ailgylchu ymyl y ffordd - y perfformiad gorau o blith cynghorau Cymru gyfan. Mae Abertawe hefyd ar frig y tabl am leihau defnydd o ynni gan 16.5 y cant a lleihau allyriadau carbon deuocsid gan fwy na 13 y cant. Yn y gwasanaethau cymdeithasol, Abertawe yw'r gorau yng Nghymru o ran delio â chyfeiriadau plant o fewn diwrnod (100%) ac ymweld â phlant mewn gofal yn unol â'r rheoliadau. Ac o ran hylendid bwyd, rhoddwyd 100 y cant i Abertawe am ymweld ag eiddo risg uchel. Meddai Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n hyfryd gweld bod gennym rai o'r gwasanaethau gorau yng Nghymru. Mae'r adroddiad annibynnol hwn o'r holl gynghorau yng Nghymru yn dangos yn glir ein bod ar y trywydd iawn. "Gall swyddogion y Cyngor fod yn falch o'u cyflawniadau, a gall y cyhoedd fod yn sicr eu bod yn derbyn gwasanaethau o ansawdd uchel mewn meysydd allweddol. "Rydym yn ymroddedig i wella ein holl wasanaethau fel y gall trigolion Abertawe dderbyn gwerth am arian a gwasanaethau rhagorol gan eu cyngor." Yn ôl Mary Jones, Aelod y Cabinet dros Berfformiad Gorau, "Mae gwasanaethau gwell yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. "Bydd y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau. Wedi agoriad diweddar y Ganolfan Gyswllt yn Neuadd y Sir gall pobl gael mynediad cyflym a hawdd i wasanaethau, help a chyngor mewn awyrgylch modern a chroesawgar." Mae'r Cyngor hefyd yn gwella nifer o wasanaethau eraill hefyd. Bydd agor y llyfrgell ganolog newydd yn Neuadd y Sir yn cynyddu nifer y cyfrifiaduron sydd ar gael i'r cyhoedd o 50 i 179. Mae'r cyngor hefyd yn talu anfonebau cyflenwyr yn gynt wedi cyflwyno system newydd ISIS yn ddiweddar.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mawrth 25 2008