||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=18369
||

Rhaglenni a Phrosiectau Allweddol

image depicting Corporate Plan

Mae gan Ddinas a Sir Abertawe nifer o raglenni a phrosiectau sy'n ffurfio'i raglen strategol. Dyma'r prif flaenoriaethau o ran rhaglenni a phrosiectau nodedig y mae angen eu cyflwyno ac a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni nodau/gweledigaeth strategol y Cyngor.

Mae'r Rhaglen Strategol yn cynnwys pob Cyfarwyddiaeth ac mae'r rhaglenni/prif brosiectau dan sylw yn adrodd bob mis ar sail eithriad i Fwrdd y Rhaglen Strategol. Mae'r Bwrdd hwn yn cynnwys y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Strategol y Cyngor.

Mae'r Rhaglen Strategol a adolygir yn gyson gan y bwrdd uchod yn cynnwys:

  • Rhaglen y Gweithlu
  • Rhaglen Rheoli Asedau
  • Rhaglen AoS 2020
  • Rhaglen Rheoli Gwastraff Gynaliadwy
  • Rhaglen Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
  • Rhaglen Adolygu Gwasanaethau Diwylliannol
  • Rhaglen Fframwaith Canol y Ddinas
  • Prosiect y Cwadrant/Metro
  • Rhaglen ISSIS
  • Rhaglen Datblygu TGCh
  • Rhaglen Dyfodol Tai
  • Strategaeth Plant a Phobl Ifanc
  • Project y Strydlun

Mae pob rhaglen a phrosiect a restrir uchod yn destun gwiriadau sicrwydd ynghylch cynnydd ar ddulliau rheoli Rhaglenni a Phrosiectau'r Cyngor. Cynhelir y gwiriadau hyn gan y Tîm Sicrhau Rhaglenni/Prosiectau. Bwydir casgliadau o bob adroddiad yn ôl i'r Bwrdd Rhaglenni Strategol yn rheolaidd.

Prosiectau wedi'u Cwblhau

Canolfan Ddinesig Newydd

Mae'r prosiect hwn a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnig canolfan mynediad newydd i wasanaethau cyhoeddus, llyfrgell gyfoes, canolfan archifau/hanes teuluol, ardal arddangos, a chaffi a chyfleusterau acíwt newydd. I gefnogi'r cyfleusterau mewnol newydd, sefydlwyd cysylltiadau cludiant cyhoeddus hygyrch ac integredig o ganol y ddinas ac ardaloedd o gwmpas i'r ganolfan ddinesig newydd.

Darllen mwy am y Ganolfan Ddinesig newydd

LC – Adeilad Canolfan Hamdden Newydd Abertawe

Mae'r cyngor wedi buddsoddi miliynau i drawsnewid Canolfan Hamdden Abertawe gynt yn atyniad hamdden cyfoes i'r unfed ganrif ar hugain. Yn ogystal â darparu atyniad iechyd, ffitrwydd a hwyl gwych i breswylwyr Abertawe, mae'r cyfleuster hamdden newydd yn atyniad tywydd gwlyb pwysig yn y ddinas, gan gryfhau safle Abertawe fel cyrchfan twristiaeth strategol. 

Mae Cam 2 y prosiect bellach wedi dechrau, a bydd yn edrych ar reolaeth yr adeilad.

Darllen mwy am y Ganolfan Hamdden newydd - Yr LC


Adolygiad Corfforaethol o Drafnidiaeth

Roedd cwblhau'r prosiect hwn yn rhan sylfaenol o Raglen Adolygu'r Gyllideb, ac fe'i nodwyd fel maes posib i arbed arian yn y gyllideb. Mae trefniadau cludiant y cyngor yn amrywiol iawn, wedi'u harwain gan wasanaethau ac yn dibynnu ar anghenion a gofynion pob maes gwasanaeth.

Mae nifer sylweddol o Gydlynwyr/Swyddogion Cyswllt Cludiant yn y cyngor, ac mewn rhai achosion mae ganddynt wahanol bolisïau a gweithdrefnau gweithredu. Hefyd, mae angen dadansoddiad cyngor cyfan o ddeddfwriaeth y Drwydded Gweithredwyr y mae dyletswydd arnom bellach gydymffurfio â hi.

Yn 2004, cyflwynodd Dinas a Sir Abertawe System Canfod Cerbydau Awtomataidd er mwyn gwella effeithlonrwydd ei cherbydlu er mwyn lleihau costau gweithredu. Abertawe oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r dechnoleg hon, gan gwblhau'r gwaith gosod ym mis Tachwedd 2004. 

Darllen mwy am y System Monitro Cerbydau

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340