|
|
||
Rheoli Phrosiectau![]() Wrth ymateb i sylwadau'r Cyfarwyddiaethau gwahanol, gwelwyd bod angen am ddarparu fersiwn ysgafnach o fethodoleg Rheoli Prosiectau Corfforaethol a fyddai'n addas ar gyfer prosiectau pob dydd ond a fyddai'n dal i ddarparu hanfodion rheoli prosiectau.Câi rhai prosiectau yn y cyngor drafferth cymhwyso methodoleg gorfforaethol Rheoli Prosiectau i'w prosiectau oherwydd prinder amser i gwblhau'r prosesau amrywiol o'i gymharu â maint a chymhlethdod y prosiectau dan sylw. Er bod y prosesau'n berthnasol, nid oedd yr amser a'r adnoddau angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion y fethodoleg yn ymarferol o gwbl, felly crëwyd methodoleg 'ysgafnach' fel ymagwedd ofynnol y gellid ei chymhwyso i unrhyw un o brosiectau'r cyngor. Gobeithio y bydd staff y cyngor yn derbyn hon yn gynnes ac yn rhoi hwb i'r staff hynny sydd wedi bod yn gyndyn i ddefnyddio'r fethodoleg yn y gorffennol.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Rhagfyr 22 2009