|
|
||
Cyflawni Gwiriadau Iechyd![]() Gwelodd y cyngor bod angen datblygu proses Gwirio Iechyd er mwyn rhoi sicrwydd i'r rheolwyr fod yr wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn gadarn.Unwaith yr oedd y Rhaglen Strategol wedi'i sefydlu a bod yr holl drefniadau llywodraethu ar waith er mwyn sicrhau ymagwedd gyffredin at raglenni a phrosiectau, aeth Jeremy Stephens (yn ei rôl fel Rheolwr y Rhaglen Strategol) ati i arwain y gwaith o ddatblygu fframwaith Sicrhau Prosiectau. Mae'r fframwaith hwn y gellir ei ailddefnyddio ac sy'n alinio â Methodoleg Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau wedi'i lunio i adlewyrchu buddiannau'r busnes, y defnyddwyr a'r cyflenwyr. Rhoddwyd y cyfrifoldeb o greu'r fframwaith hwn a'i brofi ar un o brosiectau'r cyngor i Gareth Watkins (Arweinydd y Tîm Archwilio Busnes) a'i dîm. Rhoddodd hyn gyfle ymarferol i'r tîm gan eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'r ffordd o gynnal gwiriad iechyd. Bu hefyd o gymorth i ddiffinio effeithiolrwydd y broses a chwilio am fannau i'w gwella. Rhan o'r fframwaith oedd creu offeryn diagnostig a baratowyd a'i addasu i ddiwallu anghenion y cyngor. Mae'r broses gyfan bellach ar waith yn y cyngor ac mae sawl prosiect wedi profi gwaith Gareth a'i dîm. Nid archwiliad yw'r Gwiriad Iechyd ond fe'i lluniwyd i ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol, diduedd a phrofiadol i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect er mwyn gwella'r perfformiad. Dyma batrwm y gwiriad iechyd:
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Ebrill 30 2010