||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=18006
||

Gweithio gydag Ymgynghorwyr

image depicting Swansea & Deloitte working together

Ym mis Mai 2004, recriwtiodd y cyngor ymgynghorwyr Deloitte fel cyfeillion beirniadol i gadw golwg ar fethodoleg Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau a'i datblygu.

Dros gyfnod o chwe mis bu dau aelod o staff Deloitte yn gweithio'n agos iawn â'r SRhS gan edrych ar y prosesau a sefydlwyd a datblygu eu hyder yn eu dull o weithio.

Cafwyd sawl cyfarfod yn gynnar er mwyn gweld beth a ddymunai'r cyngor ei gyflawni. Cyfwelodd Deloitte hefyd â staff o wahanol adrannau'r cyngor er mwyn i Deloitte gael syniad gwell o'r ffordd y mae'r cyngor yn gweithio. Hwyluswyd gweithdai gan Deloitte (gyda'r nos) er mwyn creu fframwaith tryloyw y gallai'r cyngor ei roi ar waith.

Ymwelodd staff arall o Deloitte (gan gynnwys rheolwyr) o dro i dro i ychwanegu gwerth mewn gweithdai, a datblygwyd perthynas dda iawn rhwng Deloitte a'r cyngor sy'n parhau hyd heddiw. Rydym yn parhau i ddysgu gwersi ac mae'r systemau'n parhau i gael eu mireinio.

Yn sicr, mae gweithio gyda Deloitte wedi gwella'r ffordd y mae'r cyngor yn mynd ati i Reoli Rhaglenni a Phrosiectau, ac yn sicr, byddai'n defnyddio'r cwmni hwn eto ar gyfer gwaith o'r math hwn.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340