|
|
||
Offer a Thempledau![]() Mae'r cyngor wedi llunio llawer o offer a thempledau, sy'n cydweddu â Prince2 ac MSP y mae staff sy'n gweithio ar Rhaglenni a Phrosiectau'n gallu eu defnyddio.Mae Siart Gantt yn un o'r offer y mae llawer o Reolwyr Prosiectau'n ei ddefnyddio er mwyn cael trosolwg o'u prosiect ac i fonitro cynnydd y prosiect.Mae hefyd yn nodi'r prif bwyntiau rheoli yn y prosiect, megis ffiniau camau a'r prif gerrig milltir, ac wrth i'r prosiect fynd ymlaen drwy'r camau, cynhyrchir fersiynau dilynol o'r Siart Gantt. Mae'r SRhA yn awgrymu y dylid cynhyrchu pob siart gantt drwy ddefnyddio meddalwedd megis Microsoft Project, ond mae dulliau symlach megis Visio, Microsoft Word a Mind Manager. Mae'r SRhA yn cadw cronfa ddata o'r holl dempledau angenrheidiol sydd ar gael i staff drwy wefan tiwtorial e-ddysgu. Dyma restr o'r templedau a ddefnyddir yn y cyngor. Mae gan bob templad ddisgrifiad o'r cynnyrch, sydd yn disgrifio diben a chynnwys y templed ac unrhyw safonau y mae'n rhaid iddo gydymffurfio â hwy.
I gael dilyniant trosolwg o'r holl dempledau allweddol a ddefnyddiwyd wrth ymgymryd â phrosiect, cliciwch ar y ddelwedd
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Gorffennaf 5 2010