|
|
||
Meincnodi a Rhannu Gwybodaeth![]() Mae'r cyngor yn y broses o gysylltu â chynghorau eraill ar draws y DU er mwyn cymharu perfformiad Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau ag eraill.Mae llawer o gynghorau ledled y wlad yn ymwneud â Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau mewn rhyw ffordd ond nid ydynt yn gwybod mewn gwirionedd beth yw safon eu perfformiad o'i chymharu ag eraill. Dros y misoedd nesaf, bydd Dinas a Sir Abertawe'n ymgymryd ag astudiaethau meincnodi er mwyn nodi'r arferion a allai wella gweithrediadau cyffredinol ein gwaith.Bydd hefyd yn gyfle i ni fesur ein hunain yn erbyn eraill ac adrodd yn ôl i'n Bwrdd Rhaglen Strategol ynghylch unrhyw gasgliadau. Cam cyntaf y broses feincnodi oedd nodi'r pynciau a fyddai'n destun yr astudiaeth. Fe'u hymgorfforwyd wedyn mewn holiadur byr y byddai cynghorau eraill yn eu cwblhau. Y cam nesaf oedd cysylltu â'r cynghorau ac anfon yr holiadur atynt i'w gwblhau. Gobeithio y bydd hyn hefyd yn cychwyn fforymau a fydd yn helpu i nodi a manteisio ar y cyfleoedd i gydweithredu. Nid rhywbeth unwaith ac am byth fydd y meincnodi. Bydd yn dra effeithiol os bydd yn rhywbeth parhaus ac yn dod yn rhan o'n hadolygu blynyddol. Mae angen eich help arnom!Os ydych yn gyngor a fyddai'n hoffi meincnodi a rhannu gwybodaeth gyda Dinas a Sir Abertawe, cliciwch yma i lawrlwytho a chwblhau ein Holiadur Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau. Chwinciad fyddwch chi! Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth a roddir yn gwbl gyfrinachol. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r holiadur, cadwch eich ffeil a'i hanfon ar e-bost gyda'ch neges at Len.amos@swansea.gov.uk Yn edrych ymlaen at glywed gennych chi! Gallai hyn fod yn ddechrau rhywbeth arbennig iawn. |
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Chwefror 10 2010