||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=17979
||

Gwefan Gweld Prosiectau

image depicting Project Status

Er mwyn i staff gael gwybodaeth am hynt a helynt prosiectau mawr y cyngor, crëwyd Gwefan Gweld Prosiectau.

Mae gan bob Rheolwr Prosiect sy'n gweithio ar un o brosiectau allweddol y cyngor ei we-dudalen ei hun sy'n cynnwys gwybodaeth amrywiol am y prosiect.

Mae'n rhoi cyfle i'r defnyddiwr ddarllen am y prosiect a'r sefyllfa bresennol. Mae tudalennau ar gael hefyd lle gellir cwrdd â Rheolwyr Prosiectau a'r bobl y maent yn gweithio gyda hwy, gweld y siart trefniadaeth, a gweld lluniau o'r gwaith sy'n digwydd.

Caiff y tudalennau hyn eu diweddaru'n rheolaidd er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r staff sy'n eu darllen.

Mae tudalen sylwadau hefyd ar gael er mwyn i ddefnyddwyr gael cyfle i fynegi eu barn wrth unrhyw un o'r Rheolwyr Prosiect. Mae aelodau'r cyngor hefyd yn gallu cysylltu â'r safle yma ac anfonir negeseuon e-bost atynt gyda dolenni i'r safle pan fo gwybodaeth bwysig ar gael iddynt ei hystyried.

Mae llawer o waith caled yn digwydd gyda phrosiectau'r cyngor nad yw'n cael ei gydnabod fel y dylai. Mae gwefan Gweld Prosiectau'n rhoi cyfle i Reolwyr Prosiectau amlygu'r meysydd hyn.

Caiff unrhyw wersi a ddysgwyd gan Reolwyr Prosiectau wrth ymgymryd â'u prosiectau eu nodi ar y safle er mwyn helpu Rheolwyr Prosiectau yn y dyfodol.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340