|
|
||
Blaenoriaethu Prosiectau![]() Mae blaenoriaethu prosiectau'n ymwneud â'r nifer mawr o Brosiectau'r Cyngor sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd i lunio'r Rhaglen Strategol a fydd yn cefnogi Nodau a Blaenoriaethau'r Cyngor orau.Rhestr yw'r Rhaglen Strategol o'r prosiectau allweddol y mae adroddiadau amdanynt yn mynd gerbron Bwrdd y Rhaglen Strategol bob mis. Er mwyn cael ei dderbyn ar gyfer y Rhaglen Strategol, bydd pob prosiect yn mynd drwy "system dwndish" y cyngor (llun) er mwyn sicrhau ei fod yn haeddu cael ei dderbyn.Bydd yr wybodaeth sy'n ymddangos ar dempled Brîff y Prosiect yn cael ei hasesu gan banel o gynrychiolwyr o feysydd gwahanol y cyngor e.e. Cyllid, Cyfreithiol etc., er mwyn pwyso a mesur risgiau a manteision ymgymryd â phrosiectau penodol ac a ydyw gwneud hynny'n ddelfrydol ac yn ymarferol. Y ddau gwestiwn i'w hystyried yw "A oes angen y prosiect?" ac "A yw'r prosiect yn ymarferol?" Bydd methu â bodloni'r naill neu'r llall yn golygu y bydd y prosiect yn golled o ran buddsoddi. Nod y cwestiwn "A oes angen ...?" yw asesu pa mor ddeniadol ydyw'r prosiect i'r cyngor o ran cydweddiad strategol a'r buddion arfaethedig. O bosib y bydd prosiect yn dra dymunol, ond efallai na fydd yn werth chweil os nad yw ei roi ar waith yn ymarferol. Yr ail beth i'w ystyried yw a oes gan y cyngor y gallu o ran pobl, cyllid ac arweinyddiaeth i ymgymryd â'r prosiect. Os bydd y panel yn derbyn y prosiect, bydd yn cael ei ddilyniannu i raglen ac fe benodir Rheolwr Prosiect i gychwyn y prosiect.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Rhagfyr 30 2008