|
|
||
Hyfforddiant a Datblygiad![]() Mae Dinas a Sir Abertawe wedi buddsoddi'n drwm o ran amser ac arian i hyfforddi eu staff i'r safonau angenrheidiol ar gyfer ymgymryd â Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau mewn ffordd reoledig a chyson.Bellach mae gan yr awdurdod gronfa o bobl dra chymwys, ar draws yr holl Gyfarwyddiaethau, sy'n ymwneud â phrosiectau/rhaglenni ar bob lefel. Ym mis Ebrill 2007, cafwyd cyflwyniad i nodi camp mwy na 50 o staff (llun) pan roedd y Prif Weithredwr, Paul Smith a'r Cynghorydd Mary Jones wedi diolch yn bersonol i bawb am eu gwaith caled. Dywedodd Paul ei fod yn gwybod pa mor anodd y mae'r cyrsiau hyfforddiant hyn oherwydd bu mewn cwrs MSP ychydig o flynyddoedd yn ôl ac roedd yn cofio gweithio'n hwyr bob nos ac adolygu ar gyfer arholiadau anodd ar ddiwedd y cwrs. Diolchodd Jeremy Stephens, Pennaeth Prosiectau Strategol hefyd i bawb am eu gwaith caled. Dywedodd y dylai'r gr?p fod yn falch iawn o'u cyflawniadau. "Fel cyngor, mae gennym bellach wybodaeth weithio sylweddol ym maes Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau ac mae hyn yn bwysig wrth i ni ddatblygu methodoleg Rheoli Prosiectau a Rhaglenni Corfforaethol a'i defnyddio ar draws y cyngor yn llwyddiannus mewn ymgais i greu cronfa o weithwyr proffesiynol tra chymwys a galluog a fyddai'n gallu darparu 'canolfan ragoriaeth'." Dyma'r prif gyrsiau hyfforddi y mae'r staff wedi'u mynychu: Prince2PRINCE 2 (PRojects INControlled Environments) - sef dull strwythuredig ar gyfer rheoli prosiectau'n effeithiol, a ddatblygwyd gan Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC). Fe'i lansiwyd ym 1996 mewn ymateb i ofynion defnyddwyr am arweiniad gwell ar reoli prosiectau ar gyfer yr holl brosiectau. Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu amrywiaeth mawr o ddisgyblaethau a gweithgareddau er mwyn ymgymryd â phrosiectau. Mae'n gwrs 5 niwrnod sy'n cynnwys gweithio gyda'r nos a dau arholiad (Sylfaen ac Ymarferydd). MSP (Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus)Dyma ddull strwythuredig ar gyfer Rheoli Rhaglenni'n effeithiol a ddatblygwyd gan Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC). Fframwaith yw Rheoli Rhaglenni sy'n amlinellu'r math o sefydliad, prosesau a llywodraethu gofynnol. Daw â phrosiectau a gweithgareddau cysylltiol ynghyd er mwyn rheoli'r berthynas rhyngddynt a chadw golwg strategol ar y gwaith. Yr hyn yw Rheoli Rhaglenni yw cyflwyno newid ar ffurf canlyniadau, ac felly, buddion. Fframwaith ydyw ar gyfer rhoi strategaethau, polisïau a mentrau busnes, neu newid ar raddfa fawr, ar waith mewn gweledigaeth gyffredinol. Cwrs 5 niwrnod yw hwn ac mae'n golygu gweithio gyda'r nos a 3 arholiad (Sylfaen, Canolradd ac Ymarferydd). MOR (Rheoli Risgiau)Fframwaith yw Rheoli Risgiau (MOR), a ddatblygwyd gan Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC), sy'n helpu sefydliadau i lunio penderfyniadau gwybodus am risg mewn ffordd gytbwys a chyson. Mae wedi'i seilio ar arfer gorau a brofwyd, a chorff hanesyddol o wybodaeth, ac mae'n ymgorffori ymagwedd drefnus ond pragmataidd at ddadansoddi a rheoli risgiau. Cwrs 5 niwrnod ydyw ac mae'n golygu gweithio gyda'r nos a 3 arholiad (Sylfaen, Canolradd ac Ymarferydd). Cefnogi Rheoli Prosiectau a Rhaglenni ISEBMae'r cwrs 3 diwrnod hwn yn rhoi dealltwriaeth dda i'r cynrychiolwyr o sut gall Swyddfa Prosiectau/Rhaglenni gynnig cefnogaeth ac arweiniad i raglenni a phrosiectau amrywiol. Yn yr un modd, mae'r cwrs yn golygu gweithio gyda'r nos ac 1 arholiad (Sylfaen).
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Rhagfyr 22 2009