||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=17940
||

Strwythur Llywodraethu

image depicting Governance Structure

O'r holl ffactorau sy'n penderfynu a yw rhaglen/prosiect yn llwyddo neu'n methu, ymhlith y pwysicaf yn ddiamau y mae'r drefniadaeth a'r staff.

Os yw pob aelod o staff y prosiect yn dechnegol alluog, yn wybodus ac yn arwain ac yn ysgogi'n gywir, yna bydd y prosiect yn debygol o lwyddo. Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn ymwneud ag ystod eang o fentrau corfforaethol ac felly, rhaid eu rheoli'n gorfforaethol er mwyn eu rhoi ar waith yn llwyddiannus.

Er mwyn sefydlu fframwaith penderfyniadau effeithiol yn y cyngor, sefydlwyd Fframwaith Llywodraethu (Cliciwch ar y diagram i weld delwedd fwy). Mae'n cynnwys llawer o rolau ac fe'i rhennir yn dair lefel fel a ganlyn:

  • Strategol
    Bydd y lefel uchaf hon yn sicrhau bod yr holl raglenni'n cydweddu â strategaeth gyffredinol y cyngor o gyflwyno'r nodau a'r amcanion allweddol a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol. 
  • Rhaglen
    Y lefel ganolig hon sy'n gyfrifol am ddiffinio a chymeradwyo gweledigaeth y rhaglen a hybu a chefnogi'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno.
  • Prosiect
    Dyma'r lefel sy'n gyfrifol am gyfarwyddo a rheoli'r prosiect yn gyffredinol. 

Fel y gwelwch yn y diagram, mae pob lefel yn cynnwys bwrdd a sawl rôl. Mae gan SRhS ffolder electronig sy'n cynnwys gwybodaeth am bob bwrdd a rôl ac mae ar gael i'r holl staff ar gais.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340