|
|
||
Swyddfa'r Rhaglen Strategol![]() Cysyniad Swyddfa'r Rhaglen Strategol (SRhS/SPO) yw hyrwyddo gweithio corfforaethol ar Reoli Rhaglenni a Phrosiectau gan ddefnyddio cronfa ganolog o adnoddau medrus i ddarparu rolau Cefnogi Prosiectau, Rhaglenni a'r Rhaglen Strategol.Ers llunio'r Swyddfa Rhaglen Strategol ym mis Ebrill 2004, penodwyd un person ar ddeg i rolau amrywiol gan gynnwys Rheolwr, Cydlynydd Rhaglenni, Rheolwr Ansawdd Prosesau, Cynllunwyr Rhaglenni/Prosiectau, Rheolwyr Cyflunio/Adnoddau a Gweinyddwyr Rhaglenni. Ar y cyd â Hyfforddiant Corfforaethol, datblygwyd eu sgiliau i sicrhau bod ganddynt yr arbenigedd angenrheidiol i gynorthwyo staff i ddeall y prosesau, y cydrannau a'r technegau gofynnol o safon i'w helpu i fod yn ymarferwyr ym maes Rhaglenni a Phrosiectau. Fel arfer, mae rolau'r is-adran yn cynnwys y canlynol:
Yn eu swyddfa yn Neuadd y Sir, Abertawe, mae'r SPO wedi creu canolfan y gall holl aelodau'r staff sy'n dymuno cael cyngor, help ac arweiniad ar holl agweddau Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau ei gyrchu'n hawdd. Maent yn gweithio'n agos â llawer o Reolwyr Prosiectau o ddydd i ddydd gan ddarparu'r cyfarpar a'r technegau angenrheidiol gofynnol ar gyfer eu prosiectau. Len Amos, sef Rheolwr Swyddfa'r Rhaglen Strategol, sy'n sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael ar gyfer Rheolwyr Prosiectau yn ôl y gofyn. Mae llawer o'r staff yn ymwneud â phrosiectau pwysig y cyngor, ond maent hefyd ar gael i helpu gyda phrosiectau llai pan fo angen. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Swyddfa'r Rhaglen Strategol wedi datblygu perthynas gadarn ar bob lefel yn y cyngor a gwelir hyn yn y ffordd y mae staff yn cydnabod hynny. Mae'r systemau a'r prosesau yn datblygu'n barhaus yn ôl gofynion eu cwsmeriaid ac mae hynny'n helpu i gyfrannu at wasanaeth mwy hyblyg, effeithlon a hygyrch.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Rhagfyr 22 2009