|
|
||
Trefniadau Derbyn 2010/2011![]() Babanod, Iau, Cynradd Lleoliad Cychwynnol, Dewisiadau Rhieni a Cheisiadau am DrosglwyddoYr Awdurdod Addysg Lleol, yr AALI, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion y sir. Gwahoddir pob plentyn sydd ar fin cychwyn mewn addysg amser llawn neu symud o ysgol fabanod i ysgol iau i wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan yr AALI. Gall rhieni un ai dderbyn y cynnig cychwynnol hwn trwy lythyr neu fynegi awydd am leoliad trwy ddewis mewn ysgol arall. Caniateir ceisiadau am leoliad trwy ddewis oni bai y byddai gwneud hynny yn: - peryglu darparu addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau, ac - yn achos ysgolion gwirfoddol gymorthedig, yn anghydnaws a'r trefniant derbyn y cytunwyd arno gan y Corff Llywodraethu a'r AALI. Bydd y rhieni hynny sy'n ysgrifennu i nodi pa ysgol fyddai orau ganddynt yn derbyn blaenoriaeth. (a) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn plant hyd at ei Rhif Derbyn ym mlwyddyn y derbyn (h.y. Dosbarth Derbyn mewn ysgolion Babanod ac Iau a Blwyddyn 3 yn yr ysgolion Iau dilynol - Brynhyfryd; Clydach; Gorseinon; Pentrepoeth a Thre-gwyr*). Ym mlwyddyn y derbyn, gwrthodir lle i blentyn ar ol cyrraedd y Rhif Derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni hynny. Mae'r Nifer Derbyn yn berthnasol i bob grwp blwyddyn. (b) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol Os oes mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:
Lle bo mwy o geisladau am fynediad nag sydd o leoedd, rhoir blaenoriaeth ar sail pellter cerdded rhwng y cartref a'r ysgol (wedi'i fesur gan raglen gyfrifiadurol) wedi'i fesur fel y llwybr cerdded agosaf sydd ar gael, gan flaenoriaethu'r plant sy'n byw agosaf. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynediad y cartref (ty neu fflat) i fynediad swyddogol agosaf yr ysgol. Sylwer bod gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant a Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod yn yr ysgol gan yr AALI, a chynhwysir y disgyblion hyn yn nifer y disgyblion a dderbynnir hyd at y Nifer Derbyn, oni bai iddynt gael eu lleoli mewn Cyfleuster Addysgu Arbennig gyda lleoliadau cynlluniedig. Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. (Cyrff Llywodraethu Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn hwy). Penderfynir ar geisiadau i drosglwyddo plant o un ysgol i'r llall ar adegau ar wahan i'r oed trosglwyddo arferol drwy ddefnyddio'r meini prawf derbyn uchod. Ni fydd yr AALI yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cal eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. * Gwiriwch gyda'r ysgol cyn gwneud cais leoliad Blwyddyn 3 yn destun cynnig statudol i ymuno ag ysgol gynradd. ** Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y nail riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw amgylchiadau pan fydd un lle ar gael, ac mae'r plant cymwys nesaf yn efeilliaid/tripledi, yna bydd yr AALI yn derbyn y ddau/pob plentyn. (c) Cyfyngiadau Derbyn - Ysgolion Cymunedol Gofynnir i rieni wneud cais drwy lythyr am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu ar gyfer lleoliad drwy ddewis ar ffurflen cais am dderbyn. Dim ond un ffurflen fynediad sy'n rhaid ei chwblhau. Dylai rhieni sy'n dymuno lleoliad drwy ddewis mewn ysgol arall wneud cais i Bennaeth yr ysgol honno gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn. Rhoddir lle mewn ysgol os oes lle ar gael. Os ceir mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael yn ol y Rhif Derbyn cyhoeddedig, dyrennir y ceisiadau yn ol meini prawf derbyn yr AALI. Fel arfer, prosesir ceisiadau derbyn i'r grwp oedran perthnasol (h.y. y grwp oedran y caiff plant eu derbyn i'r ysgol fel arfer) a gyflwynir ar neu cyn y dyddiad cau gweinyddol, dydd Llun 1 Mawrth 2010, gyda'i gilydd. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais derbyn yn gynnar. Caiff ceisiadau a gyflwynir wedi'r dyddiad cau eu prosesu wrth gael eu derbyn. Ni cheir phenderfynir ar geisiadau ar sail meini prawf dewis sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol, neu gyfweld a disgyblion gyda neu heb eu rhieni at ddibenion asesu gallu neu dueddfryd. Hawl i ApelioCaiff rhieni eu hysbysu drwy lythyr yngl nag a fu eu cais yn llwyddiannus ai peidio. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni bod ganddynt hawl i apelio i Banel Apel Annibynnol. Os byddant yn dewis defnyddio'r hawl honno, rhaid cyflwyno'r apel i'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr yn Neuadd y Ddinas erbyn dydd Gwener 26 Mawrth 2010. Caiff yr apel ei ystyried gan Banel Apel Annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl a phrofiad o faes addysg. Bydd ysgolion yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi'u blaenoriaethu yn ol meini prawf yr AALI. Wrth i leoedd gwag godi, bydd y rhain yn cael eu cynnig i rieni sydd wedi gofyn am gadw enw eu plentyn ar restr o'r fath. Ni fydd gan blant sy'n mynd i'r dosbarth meithrin ac sy'n byw y tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol unrhyw hawl awtomatig i gael eu derbyn i addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd yn rhaid i rieni wneud cais am le yn y ffordd arferol. Bydd yr holl geisiadau am gael eu derbyn i'r flwyddyn Derbyn yn cael eu hystyried gyda'i gilydd a defnyddir y meini prawf a ddisgrifir os ceir mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael. Ni fydd yn rhaid i'r AALI gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol a'i drefniadau'n unig. D.S. Nid yw'r meini prawf derbyn yn berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr AALI ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer, er bod hawliau rhieni i fod yn rhan o'r broses o leoli eu plentyn yn cael eu hamdiffyn o dan y gyfraith. Bydd yr AALI, mewn ymgynghoriad a rhieni ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r AALI yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mai 20 2010