||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=15550
||

Dyma'n Dyffodol Ni

Croeso i 'Dyma'n dyfodol ni', y wefan sydd wedi cael ei llunio'n arbennig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch beth rydym yn ei wneud i newid ein sbwriel o wastraff i adnoddau yn Abertawe.

Mae Abertawe wedi lansio ymgyrch caffael ar y i gyflwyno isadeiledd rheoli gwastraff; hynny yw, yr adeiladau a'r dechnoleg a fydd yn sicrhau ein bod yn ymdrin â'n gwastraff mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ni allwn barhau fel hyn. Mae angen i ni ailgylchu compost, adfer llawer mwy o'n gwastraff a rhoi'r gorau i gladdu cymaint mewn tyllau yn y ddaear. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn lleihau ein heffaith amgylcheddol, wrth i Gynghorau fodloni'r deddfau a gyflwynwyd a sicrhau na fydd rhaid i ni dalu dirwyon enfawr


Wrth i ni gydnabod bod ymgyrch barhaus y Cynghorau tuag at reoli gwastraff cynaliadwy sy'n ofynnol fel rhan o'r targedau ailgylchu a chompostio amrywiol a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill, bydd angen i ni sicrhau bod pawb yn gwneud eu rhan. Er mwyn i ni wneud hynny, mae angen i ni gynnwys pawb a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt. Dyna pam rydym wedi datblygu'r wefan hon, i roi gwybodaeth i chi er mwyn i chi fod yn ymwybodol o'r cymhlethdodau rydym yn eu hwynebu wrth reoli gwastraff yn Abertawe.


Rydym yn cydnabod hefyd bod angen eich cefnogaeth chi arnom ar gyfer cynlluniau lleihau ac ailgylchu gwastraff. Mae'r gefnogaeth hon eisoes wedi helpu Abertawe i ailgylchu a chompostio 30% hyd yn hyn. Rydym yn credu bod y wefan benodedig hon yn elfen bwysig o'r broses honno.


Mae llwyth o wybodaeth ar gael ar y wefan. Mae croeso i chi edrych arni drwy glicio ar unrhyw un o'r dolenni canlynol.

image depicting John Hague
Neges Gan y Cynghorydd Hague - Aelod Y Cabinet Dros yr Amgylchedd, Abertawe
 
image depicting Compost
Un o'r heriau amgylcheddol pwysicaf sy'n ein hwynebu heddiw yw beth rydym yn ei wneud gyda'n sbwriel. Rydym eisiau sicrhau nad ydym yn gadael etifeddiaeth sbwriel. Wedi'r cyfan dyma'n dyfodol ni, peidiwch â'i wastraffu.
 
image depicting Re-used CD's
Mae'r Cynghorau wedi nodi'r broses gaffael mewn tri cham
 
image depicting FAQ
Ceir atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin yma.
 
image depicting Regional Waste
Er mwyn bodloni'r heriau amgylcheddol, economaidd a deddfwriaethol mae'r Cynghorau yn eu hwynebu, bydd rhaid i ni wneud nifer o ddewisiadau.
 
image depicting Gloss
Yma, ceir rhestr termau o'r holl derminoleg dechnegol a ddefnyddir ar y wefan hon.
 
image depicting Machine
Mae gan newid y ffordd rydym yn ymdrin â'n gwastraff yn Abertawe fanteision amgylcheddol a manteision cyfreithiol ac economaidd hefyd, fodd bynnag dylem gofio'r camau ymarferol y gallwn i gyd eu cymryd:
 
image depicting Waste Montage
Bydd y wedudalen hon yn cael ei diweddaru'n fuan gyda'r datblygiadau hyd yn hyn. Cadwch lygad arni!
 
image depicting Waste
Mae bron popeth rydym yn ei wneud, boed yn y gwaith, gartref neu wrth chwarae, yn creu gwastraff, ac yn anffodus, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cynhyrchu mwy o wastraff nag erioed o'r blaen.
 
image depicting Landfill
Mae'r tablau a ganlyn yn dangos beth sydd wedi digwydd i wastraff yn Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf. I wneud y siart neu'r diagram yn fwy, cliciwch ar y llun.
 
© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340