|
|
||
Disgrifiad Daearyddol![]() Mae’r Ddinas a’r Sir newydd yn cwmpasu ardal 378 cilomedr sgwâr (146 milltir sgwâr), tua 2% o arwynebedd Cymru.![]() Yn estyn o Ros Rhosili ar ymyl orllewinol Penrhyn Gŵyr i Fryn Cilfái, Cors Crymlyn a llethrau Mynydd Drumau ar y ffin ddwyreiniol â Chastell-nedd Port Talbot; ac o Ben y Mwmbwls ac ehangder Bae Abertawe yn y de i gefn 1200 tr. Mynydd y Gwair yn edrych dros Ddyffryn Aman yn y gogledd, mae'r Ddinas a'r Sir newydd yn cwmpasu ardal 378 cilomedr sgwâr (146 milltir sgwâr), tua 2% o arwynebedd Cymru . Mae tua dwy ran o dair y Sir yn ffinio â'r môr – Cilfach Tywyn, Môr Hafren a Bae Abertawe. Mae Afon Llwchwr yn ffurfio'r ffin ogledd-orllewinol â Sir Gaerfyrddin a nodir y ffin ogleddol yn bennaf gan fryniau a chymoedd. Mae'r brif ardal ucheldir yng ngogledd y Sir ac yn ffurfio'r rhan fwyaf o gymuned Mawr. Penlle'r Castell, ar ffin ogleddol y Sir, yw'r pwynt uchaf, ar 374 metr (1215 troedfedd). Mae ardaloedd o dir uchel hyd at 185 metr (600 troedfedd) ar draws rhan ddeheuol y Sir, gan ffurfio bryniau Cilfái, Townhill a Llwynmawr, gan wahanu canol Abertawe o'i maestrefi gogleddol. Mae cefnen o dir uchel, Cefn Bryn, yn ffurfio meingefn Gŵyr, gyda Rhosili, Rhos Hardings a Bryn Llanmadog yn brif nodweddion gydag uchder dros 600 troedfedd. Y Tawe yw'r brif afon, sy'n cyrraedd y Sir yng Nghlydach ac yn llifo drwy Dreforys a Chwm Tawe Isaf cyn ymddangos i'r dwyrain o Ganol y Ddinas a llifo i fae Abertawe dros y bared sy'n gwahanu'r Dociau a'r Ardal Forol. Yr unig afonydd arwyddocaol eraill yw Afon Llwchwr a'i hisafonydd, Lliw a Llan, sy'n draenio ardal ogledd-orllewinol y Sir. Yn fras gellir rhannu'r Ddinas a'r Sir yn 4 ardal ddaearyddol. Yn y gogledd mae ucheldiroedd Lliw yn nodwedd rhostir agored; mae Penrhyn Gŵyr yn y gorllewin yn dirwedd wledig gydag arfordiroedd cyferbyniol a chasgliad o bentrefi bach; y canol trefol a maestrefol, sy'n ymestyn o Abertawe i Gorseinon a Phontarddulais; a'r llain arfordirol o gwmpas bae Abertawe nad yw ei lled yn fwy na 2 filltir. Mae ardal drefol y Ddinas a'r Sir yn canoli'n bennaf ar Abertawe ac yn estyn i'r gorllewin a'r gogledd o ganol y ddinas – o gwmpas Bae Abertawe i'r Mwmbwls, dros Townhill i Gwmbwrla, Treboeth, Fforestfach a Phenlan; drwy Uplands, Sgeti, Cilâ a Dyfnant; ar hyd cymunedau Cwm Tawe yr Hafod, Glandŵr, Plasmarl, Treforys i Glydach; ac ar ochr ddwyreiniol yr afon o St. Thomas i Fonymaen, Lansamlet a Gellifedw. Mae canol yr ail ffocws trefol yn y triongl Tre-gŵyr, Gorseinon a Chasllwchwr, ynghyd â chymunedau Pontarddulais a Phenllergaer gerllaw. |
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Awst 21 2006