|
|
||
Gerddi Clun![]() ![]() Mae Gerddi Clun yn cynnwys amrywiaeth o Gasgliadau Cenedlaethol o blanhigion sydd wedi'u lleoli mewn parcdir prydferth. Gerddi Clun - 01792 401737 Mae'r gerddi'n enwog ar draws y byd am y casgliadau Rhododendrons, Pieris ac Enkianthus yn ogystal â'r llonyddwch, y planhigion toreithiog a'r nodweddion diddorol sydd yno. Mae ein parciau arbenigol yn wirioneddol odidog ac yn gartref i rywogaethau prin, casgliadau cenedlaethol ac arddangosiadau blynyddol enwog. Mae'r parciau, sydd wedi ennill statws y faner werdd, yn noddfa i bobl o brysurdeb bywyd dinesig bob dydd. Mae'r gerddi'n wefreiddiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r gerddi'n dathlu Clun yn ei Blodau ym mis Mai ac fe gynhelir llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr o bob oed, a hynny pan fo'r Rhododendron a'r Azaleas ar eu gorau.
Os hoffech drefnu ymweliad grwp neu ysgol i naill ai Gerddi Clun neu'r Gerddi Botanegol, gofynnir i chi ffonio'r gerddi unigol ymlaen llaw i drefnu eich ymweliad.
Prynodd William Graham Vivian - miliwnydd Clun- castell yn 1860 a'i ail enwi yn 'Gastell Clun' a buddsoddod amser ag arian yn hael arno i adlewyrchu ei gyfoeth.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mehefin 18 2010