|
|
||
Gwasanaeth Caffael y Cyngor![]() Rhaid i'n holl drefniadau caffael gydymffurfio â deddfau'r Undeb Ewropeaidd (UE) a'r DU, yn ogystal â Rheolau Sefydlog y Cyngor sy'n llywodraethu ein gweithgareddau contractio - gweithdrefnau ar gyfer cael dyfynbrisiau/tendrau a rhoi contractau. Yn ogystal â hyn, mae ein prosesau caffael bob amser yn ceisio cydbwyso costau byw ac addas at y diben, a thrin cyflenwyr yn deg. Rydym yn cydnabod nad yw 'Gwerth am Arian' fel arfer yn golygu'r 'pris isaf', ac felly bydd ein penderfyniadau prynu'n aml yn ystyried ffactorau fel effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, yn y byr dymor a'r hir dymor. Caffael arferol, gwerth gostyngol – yr adrannau gwasanaethau sy'n gyfrifol am y math hwn o bwrcasu, lle bydd swyddogion yn cyflawni dyletswyddau caffael yn eu meysydd gwasanaeth perthnasol, gan ymgymryd â gwaith penodol ar wasanaethau, prosiectau a chynlluniau lleol. Contractau – Mae ein Tîm Contractau Corfforaethol yn trefnu llawer o'r contractau gwerth uwch a/neu hir dymor dan arweiniad y Cyngor. Sefydlwyd trefniadau contractio canolog er mwyn caffael nwyddau amrywiol, gan gynnwys deunydd ysgrifennu, celfi ac offer swyddfa. Trefnir contractau ar y cyd ar adegau gyda chynghorau eraill neu'r Cynulliad. Trefnir Contractau Arbenigol hefyd gan swyddogion mewn adrannau amrywiol ledled y cyngor. Hysbysebir y contractau a chontractau mawr tebyg eraill yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), ar wefan y sector cyhoeddus Cymreig www.sell2wales.co.uk ac weithiau mewn cylchgronau masnach perthnasol. |
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Tachwedd 11 2009