||
||
Newid maint y testun
| Gwrando ar y wefan yma Listen to this website | Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Dinas a Sir Abertawe|
Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=10364
||

Treftadaeth Morol

image depicting Treftadaeth arforol

Cysylltiadau a gwybodaeth arall am longau a morwyr

Mae gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg gasgliad gwych o gofnodion llongau ar gyfer llongau a gofrestrwyd yn Abertawe a Phort Talbot. Mae'n bwysig nodi fod y Gwasanaeth Archifau yn cadw cofnodion sy'n ymwneud â llongau a gofrestrwyd yn lleol yng Ngorllewin Morgannwg yn unig.

Gallai eich pwnc diddordeb fod yn llong neu'r criw a hwyliai arni: y brif gyfres o gofnodion rydym yn ei chadw am longau yw cofrestrau llongau, cofrestrau trafodion a phapurau cofrestru. Gellir defnyddio cytundebau criw i astudio hanes llong neu i chwilio am fanylion y criw.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am gofnodion arforol sydd yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, a hefyd cysylltiadau i wefannau eraill perthnasol.

Cliciwch y cysylltiadau isod am ragor o wybodaeth.


Adnoddau sydd ar gael yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Defnyddio Cofnodion Morol

Dyma un o gyfres o lawlyfrau sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r cofnodion a gedwir gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ar gyfer prosiect penodol.

Darllenwch mwy am Ddefnyddio Cofnodion Morol

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Cytundebau Criw
Cadwa'r Gwasanaeth Archifau gytundebau criw am y cyfnod 1863-1913 o longau a gofrestrwyd yn Abertawe. Dyma cysylltiad i restr y llongau yr ydym ni'n cadw cytundebau criw iddiynt.

Darllenwch mwy am Gytundebau Criw


Cysylltiadau i safleoedd allanol â mynegai llongau a morwyr

Gwefan Morwyr Abertawe
Mynegai ar-lein i forwyr a manylion llongau, casglwyd o'r cytundebau criw a cofrestri llongau a gedwir gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Darllenwch mwy am Wefan Morwyr Abertawe

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Morwyr Cymru
Mynegai ar-lein i 21,000 meistri, mêtiau a pheiriannwyr masnachnol o Gymry o 1800 tan 1945, casglwyd gan Dr. Reg Davies.

Darllenwch mwy am Forwyr Cymru

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Crew List Index Project
Prosiect oedd y Crew List Project (CLIP) i wella mynediad i gofnodion morwyr Prydeinig o ddarn olaf y nawfed ganrif ar ddeg.

Darllenwch mwy am Crew List Index Project


Cysylltiadau i wefanau amgueddfeydd a gwybodaeth arall

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340