|
|
||
Gerddi Botanegol![]() Mae'r Gerddi Botanegol prydferth wedi'u lleoli yn yr hen ardd â wal o'i chwmpas ym Mharc Singleton. Gardd Fotanegol Singleton - 01792 298637 Mae'r gerddi'n cynnwys pum math prin ac egsotig o blanhigion o bob cwr o'r byd. Maent ar eu gorau yn ystod mis Awst pan gynhelir rhaglen lawn o ddigwyddiadau, teithiau ac arddangosiadau. Mae'r Gerddi Botanegol yn gartref i un o brif gasgliadau planhigion Cymru, gyda borderi blodau ysblennydd a thai gwydr mawr. Mae'r tai gwydr yn ail-greu amrywiaeth o hinsoddau gwahanol o rannau gwahanol y byd; yn amgylchedd poeth Ty'r Diffeithdir fe ddewch o hyd i gacti a phlanhigion suddlon, ac yn y Ty Trofannol gallwch weld planhigion a geir yn y fforest law a'r jynglau trofannol. Mae'r rhain yn cynnwys casgliad cynhwysfawr o degeirianau ac epiffytau fel bromeliaid a mwsog Sbaen (planhigion aer). Mae'r Ty Gwydr Economaidd yn dangos planhigion sydd wedi dod yn bennaf o'r rhanbarthau isdrofannol a rhai gwledydd y Canoldir, ac sy'n bwysig o safbwynt economaidd, fel cansen siwgr, cnau coco, olewydd a choffi. Mae'r ty hwn hefyd yn gartref i gasgliad lliwgar o glustiau'r mochyn. Er bod y gerddi ar eu gorau ym mis Awst, mae rhywbeth i'w weld drwy gydol y flwyddyn. Mae'r borderi blodau'n olygfa hyfryd o ddiwedd mis Mawrth tan ganol fis Hydref, a hyd yn oed yn ystod misoedd garw y gaeaf mae gan yr ardd lawer i'w chynnig, gyda hyd at 200 o blanhigion gwahanol yn eu blodau yn ystod tymor y Nadolig. Am fod yr ardd hon wedi'i lleoli o fewn awyrgylch llonydd prif barc Singleton, mae'n lle hamddenol i ddod i edrych neu i ennyn ysbrydoliaeth am eich gardd eich hun. Mae digon o lefydd i eistedd ac edmygu'r golygfeydd braf.
Canolfan ymwelwyr / addysg newydd sbon yw Ty'r Blodau a leolir yng nghanol y Gerddi Botaneg
Yn 1847 prynodd John Henry Vivian t?. Feranda ar gyfer ei fab Henry Hussey Vivian a'i wraig Jessie
Mae Gerddi Botaneg Singleton yn cynnwys sawl nodwedd gyffrous.
Os hoffech drefnu ymweliad grwp neu ysgol i naill ai Gerddi Clun neu'r Gerddi Botanegol, gofynnir i chi ffonio'r gerddi unigol ymlaen llaw i drefnu eich ymweliad.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mehefin 17 2010